Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Rheoli Tir yn Gynaliadwy

 

Papur Casgliadau


 

 

 

Cynnwys

1.      Cyflwyniad. 2

Diben y gweithdy 2

Cefndir 2

Camau nesaf posibl 2

2.      Materion allweddol a chasgliadau. 3

Diffiniad o reoli tir yn gynaliadwy 3

Graddfa ddaearyddol y gwaith. 4

Mesur cynnydd: data a monitro. 5

Cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth. 5

Proffidioldeb y fferm a chynhyrchu bwyd. 7

Darparu gwasanaethau ecosystemau. 7

 

 

 


1.        Cyflwyniad

Diben y gweithdy

Diben y gweithdy yw casglu barn rhanddeiliaid am gasgliadau cychwynnol y pwyllgor ynghylch ei ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru. Yn benodol, hoffai’r pwyllgor eich barn am:

¡  A yw’r materion allweddol a nodwyd yn y papur trafod hwn yn adlewyrchu barn rhanddeiliaid am y pwnc;

¡  A oes unrhyw faterion nad ydynt wedi eu cynnwys yn y papur hwn y mae rhanddeiliaid yn teimlo eu bod yn bwysig; a’r

¡  Camau y mae’r pwyllgor yn eu hystyried fel argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Cefndir

Dechreuodd y pwyllgor ei waith ar reoli tir yn gynaliadwy yn haf 2013 gydag ymweliad â phrosiectau Pumlumon a Gweilch Dyfi yn Sir Drefaldwyn. Yn fuan wedi hynny, cafwyd gweithdy i randdeiliaid yng Nghaerdydd i helpu i lunio cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

¡  Ar ba ffurf ydym ni am weld y gwaith o reoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru? Pa ganlyniadau ydym ni am eu darparu yn y tymor byr, y tymor canol a'r hirdymor?

¡  Beth yw'r rhwystrau sy'n ein hatal rhag sicrhau'r canlyniadau hyn yn awr?

¡  Sut allwn ni oresgyn y sialensiau hyn?

¡  Beth yw'r prif yrwyr polisi a sut mae modd llunio'r rhain i oresgyn y sialensiau hyn?

Yn ystod yr ymchwiliad, mae'r Pwyllgor wedi casglu llawer iawn o dystiolaeth trwy raglen o ymweliadau a chyfarfodydd. Mae'r Aelodau wedi ymweld â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Ystâd Efyrnwy, sy'n cael ei redeg gan y RSPB, yn ogystal â dwy fferm deuluol yn Sir Frycheiniog a dau o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri. Mae'r pwyllgor hefyd wedi cael tystiolaeth gan randdeiliaid sydd â diddordeb mewn amaethyddiaeth, cadwraeth, coedwigaeth, busnesau gwledig a throsglwyddo gwybodaeth. Yn ogystal, cafwyd sesiwn gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a sesiwn ynghylch y polisi amaethyddol cyffredin gyda'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies AC.

Camau nesaf posibl

Bydd y pwyllgor yn cynnal sesiwn graffu arall gyda’r Gweinidog ym mis Mai i edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad.

Bwriad y pwyllgor yw cyhoeddi ei adroddiad terfynol ym mis Mai.

 

2.        Materion allweddol a chasgliadau

Mae’r adran hon o’r papur yn rhoi crynodeb bras i’r materion allweddol a godwyd gyda’r pwyllgor yn ystod y cyfnod casglu tystiolaeth. Ar ddiwedd pob adran, mae rhestr o gamau posibl y mae’r pwyllgor yn ystyried eu hargymell i Lywodraeth Cymru. Drwy’r gweithdy, hoffai’r pwyllgor glywed eich barn am y camau hynny.

 

Diffiniad o reoli tir yn gynaliadwy

¡  Roedd amrywiaeth barn ynghylch yr hyn dylid ei gynnwys mewn diffiniad penodol o reoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru, ond roedd cytundeb cyffredinol bod angen diffiniad y cytunwyd arno. Roedd rhai wedi awgrymu bod diffyg diffiniad cyffredin wedi bod yn rhwystr rhag rheoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru.

¡  Roedd peth o’r dystiolaeth yn awgrymu y byddai diffiniad y cytunwyd arno ac a fabwysiadwyd drwy bolisi gan Lywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid ac yn mynd i'r afael â nifer o rwystrau eraill o ran cyfathrebu, casglu data, cyllido a throsglwyddo gwybodaeth.

¡  Er nad oedd llawer o gytundeb ar eiriad penodol diffiniad o'r fath, cafwyd cytundeb ynghylch rhai egwyddorion bras y dylid eu cynnwys yn y diffiniad neu y dylent fod yn sail iddo. Dyma oedd yr egwyddorion hynny:

- dylai unrhyw ddiffiniad fod yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy a sicrhau dyfodol economaidd a chymdeithasol i gymunedau gwledig yn ogystal â gwarchod a gwella'r amgylchedd.

          - dylai'r diffiniad gyfeirio at ddarparu gwasanaeth ecosystemau.

¡  Cafwyd rhai cyfeiriadau at waith a wnaed gan gyrff sydd bellach yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru a'r undebau ffermio ar gytuno blaenoriaethau o ran rheoli tir yn gynaliadwy.

¡  Mae Papur Gwyn Bil yr Amgylchedd yn cynnwys diffiniad o reoli cynaliadwy, ond nid oedd yr holl randdeiliaid yn fodlon â'r diffiniad fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd.

Camau posibl:

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio datblygu diffiniad a rennir o reoli tir yn gynaliadwy sy'n gallu llywio'r broses o ddatblygu ei holl bolisïau sy'n ymwneud â rheoli tir. Wrth wneud hynny, dylai ddatblygu'r gwaith a wnaed eisoes gan y cyrff sydd bellach yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru a'r undebau ffermio.

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfle yn ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod y diffiniad hwn yn unol â'i gwaith ar ddiffinio adnoddau naturiol a datblygu cynaliadwy.

Mae’r pwyllgor yn bwriadu nodi rhai o'r egwyddorion allweddol y byddai'n hoffi eu gweld yn sail i ddiffiniad o reoli tir yn gynaliadwy, a dylai’r egwyddorion hynny gynnwys:

-       sicrhau dyfodol economaidd a chymdeithasol i gymunedau gwledig gan warchod a gwella’r amgylchedd; a

-       chydnabod rôl rheoli tir yn gynaliadwy yn y gwaith o warchod ecosystemau a darparu gwasanaethau ecosystemau.

 

Graddfa ddaearyddol y gwaith

¡  Mae cytundeb cyffredinol yn y dystiolaeth, er bod angen diffiniad cydlynol ar lefel genedlaethol neu lefel ranbarthol a bod angen canlyniadau sylweddol, y dylid hefyd rymuso rheolwyr tir i wneud rhagor o benderfyniadau ynghylch sut y gellid cyflawni'r canlyniadau hyn yn lleol.

¡  Mae’n ymddangos roedd consensws y gallai dull ar raddfa dalgylch afon ar gyfer datblygu canlyniadau penodol o ran rheoli tir yn gynaliadwy fod yn briodol. Gwnaed rhai cyfeiriadau at y cynlluniau rheoli adnoddau naturiol sydd ym Mhapur Gwyn Bil yr Amgylchedd.

¡  Derbyniodd y pwyllgor rhywfaint o dystiolaeth o blaid rhoi rhagor o ryddid i reolwyr tir wneud penderfyniadau ynghylch sut i sicrhau canlyniadau ar eu tir. Cyfeiriwyd at First Milk er enghraifft, lle rhoddwyd ystod o opsiynau i gynhyrchwyr ddewis ohonynt i benderfynu sut y byddent yn gwella ansawdd y dŵr yn yr ardal. Mynegodd rhai tystion bryder bod y gwrthwyneb wedi digwydd hyd yma yn Glastir Uwch, lle teimlwyd bod grym wedi ei dynnu oddi wrth y rhai sy’n rheoli tir, mewn rhai achosion.

¡  Teimlwyd y gallai datganoli rhywfaint o bŵer i reolwyr tir, yn enwedig o gael diffiniad a rennir wedi ei fynegi’n glir, wella'r ymrwymiad i'r egwyddorion sy'n sail i ddarparu'r gwasanaethau ecosystemau a'r gwaith cyfathrebu yn eu cylch.

Camau posibl:

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi’r canlyniadau sylweddol yr hoffai eu gweld o ran rheoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru, gan ddatblygu canlyniadau mwy penodol ar lefel ranbarthol, a allai fod ar raddfa dalgylch afon. Gallai'r cynigion ynghylch cynlluniau rheoli adnoddau naturiol ym Mhapur Gwyn Bil yr Amgylchedd fod yn un o'r llwybrau y gellid ei dilyn i gyflawni'r fath amcanion.

Mae’r pwyllgor yn ystyried argymell, lle y bo’n bosibl, y dylid grymuso rheolwyr tir, neu eu cynnwys, wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut mae darparu canlyniadau cenedlaethol a rhanbarthol yn lleol. Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai  Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd y gallai cynlluniau sy'n bodoli eisoes, fel Glastir, gael eu cynllunio i roi grym i reolwyr tir i wneud penderfyniadau ynghylch sut y caiff y gwaith o reoli tir yn gynaliadwy ei wneud ar lawr gwlad.

 

Mesur cynnydd: data a monitro

¡  Dywedodd rhai rhanddeiliaid wrth y pwyllgor y gallai diffiniad y cytunwyd arno o ran rheoli tir yn gynaliadwy wella’r modd y caiff data ei gasglu ac y bydd yn helpu sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi bylchau a blaenoriaethu adnoddau.

¡  Darparwyd nifer o enghreifftiau a ffynonellau data sy'n bod eisoes, ond cafwyd cytundeb cyffredinol nad yw'r data hwn wedi ei gydlynu na'i gasglu'n effeithiol. Rhoddwyd enghraifft o'r data sy'n cael ei gadw gan Ganolfannau Cofnodion Lleol.

¡  Soniodd rhai tystion am bwysigrwydd cynnwys a grymuso rheolwyr tir i gasglu data eu hunain, yn hytrach na bod sefydliadau allanol yn casglu’r data. Cyfeiriwyd at FishMap Môn o'r amgylchedd morol, er enghraifft, lle mae pysgotwyr wedi cael hyfforddiant ac offer i gasglu data am bysgodfeydd eu hunain.

¡  Yn ogystal, pwysleisiodd rhai o’r ymatebwyr at yr angen i sicrhau bod data sydd o ddefnydd i'w busnesau ffermio ar gael i reolwyr tir er mwyn sicrhau ymrwymiad ganddynt ac i wella eu gwybodaeth.

Camau posibl:

Mae’r pwyllgor yn ystyried argymell y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu strategaeth fonitro i asesu cynnydd o ran rheoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru. Dylai'r strategaeth nodi ffynonellau data sy'n bod eisoes a bylchau mewn gwybodaeth. Mae’r pwyllgor yn ystyried awgrymu y dylai nodi cynllun gweithredu wedi'i flaenoriaethu i wella'r modd y caiff data ei gasglu ac amlinellu rôl amrywiol randdeiliaid yn y broses o gasglu data. Dylai'r gwaith hwn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar ddata bioamrywiaeth.

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i gwaith ar gynlluniau rheoli adnoddau naturiol a Glastir, ystyried datblygu cynlluniau peilot i gynnig rôl i reolwyr tir yn y broses o gasglu data ac i fwydo data a gasglwyd yn ôl i reolwyr tirmewn ffordd ystyrlon.

 

Cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth

¡  Roedd hi’n ymddangos bod cytundeb cyffredinol yn y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor fod angen gwella'r gwaith cyfathrebu ynghylch rheoli tir yn gynaliadwy, ac, yn benodol, fod angen gwella'r gwasanaethau ecosystemau i reolwyr tir. Fel y nodwyd uchod, roedd  datganoli rhai pwerau i reolwyr tir a chynnwys rheolwyr tir yn y gwaith o gasglu data yn ddwy ffordd a awgrymwyd o wella'r gwaith cyfathrebu, ond ystyriwyd fod dulliau gwell o drosglwyddo gwybodaeth hefyd yn allweddol.

¡  Gwnaed argymhellion i'r Pwyllgor ynghylch dwy ffordd wahanol o drosglwyddo gwybodaeth: trosglwyddo gwybodaeth am arferion rheoli tir yn gynaliadwy, darparu gwasanaethau ecosystemau a sgiliau cadwraeth a throsglwyddo gwybodaeth am wella technoleg ac effeithiolrwydd cynhyrchu.

¡  O ran trosglwyddo gwybodaeth am arferion rheoli tir yn gynaliadwy, awgrymodd rhai tystion y gallai hyn ddarparu cyfleoedd cyflogaeth newydd mewn ardaloedd gwledig a mynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn cadwraeth.

¡  Clywodd y pwyllgor fod arbenigedd sylweddol wedi ei ddatblygu yng Nghymru o ran trosglwyddo gwybodaeth i reolwyr tir, yn enwedig drwy Cyswllt Ffermio. Ystyriwyd y rhwydwaith o ffermydd arddangos ledled Cymru yn gryfder penodol i adeiladu arno. Roedd rhanddeiliaid o'r farn y gellid ymestyn gwaith o'r fath i gynnwys sectorau tir eraill, gan gynnwys coedwigaeth yn benodol. Mae’r pwyllgor wedi nodi bod adolygiad Kevin Roberts yn casglu bod gwasanaethau estynedig Cymru yn rhagorol ac fe wnaeth argymell bod y cymorth yn cael ei ddatblygu ymhellach i weithio ar sawl haen ac i’w deilwra ar gyfer busnesau unigol.

¡  Roedd tystiolaeth Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn dangos bod gwaith gwyddonol arloesol yn digwydd yng Nghymru yn aml, ond nad oedd hynny o reidrwydd yn cael ei gyfathrebu i ddiwydiannau tir yng Nghymru yn gyntaf. Clywodd y pwyllgor fod cael sefydliad sy'n arwain y byd yn ei faes, megis Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yng Nghymru yn gyfle i gynhyrchwyr Cymru fabwysiadu syniadau newydd yn gynnar, a thrwy hynny rhoi mantais gystadleuol i Gymru.

¡  Dywedwyd wrth y pwyllgor y dylai trosglwyddo gwybodaeth hefyd fod yn broses ddwy ffordd ac y dylid datblygu dull ystyrlon i alluogi rheolwyr tir i fwydo’r dealltwriaeth a’r wybodaeth sydd ganddynt i sefydliadau perthnasol.

¡  Clywodd y pwyllgor am bwysigrwydd dysgu o arfer da ledled Ewrop a chyflwynwyd rhai enghreifftiau i’r pwyllgor o arferion rheoli tir yn gynaliadwy y gallai Cymru ddysgu ohonynt.

 

Camau posibl:

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai’r cymorth drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig wella'r modd y caiff gwybodaeth ei throsglwyddo i reolwyr tir am sgiliau rheoli tir AC o ran trosglwyddo technolegau newydd a datblygiadau gwyddonol.

Mae’r pwyllgor yn ystyried awgrymu y dylid ymestyn dull o weithio Cyswllt Ffermio o ran cynorthwyo gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau pwrpasol i reolwyr tir, gan gynnwys y sector coedwigaeth.

Mae’r pwyllgor hefyd yn ystyried argymell y dylai gwasanaethau cymorth gynnwys dulliau ystyrlon o gyfathrebu gwybodaeth ddwy ffordd, a ddylai alluogi adborth gan reolwyr tir i helpu i wella a datblygu gwasanaethau cymorth.

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ffyrdd o drosi datblygiadau newydd yn well o sefydliadau ymchwil Cymru i enghreifftiau ymarferol sydd ar gael i reolwyr tir.

 

Proffidioldeb y fferm a chynhyrchu bwyd

¡  Mae'r dystiolaeth ffurfiol ac anffurfiol a gasglwyd gan y pwyllgor yn dangos yn glir fod ffermwyr o’r farn y dylai cynhyrchu bwyd fod yn brif swyddogaeth iddynt, a bod ffermwyr am i hynny barhau yn y dyfodol.

¡  Ystyriwyd gwella proffidioldeb y fferm drwy arferion mwy effeithlon fel un ffordd o sicrhau bod tir yn cael ei reoli yn gynaliadwy, ac fel y nodir uchod, ystyriwyd y gwaith o drosglwyddo gwybodaeth yn allweddol i sicrhau hyn. Mae’r pwyllgor wedi nodi bod hyn i'w weld yng nghasgliadau adolygiad Kevin Roberts ar gadernid y sector.

¡  Cododd rhai rhanddeiliaid faterion ynghylch mynediad at y diwydiant, yn enwedig y materion ynghylch cynllunio ar gyfer olyniaeth a'r tir sydd ar gael i ffermwyr ifanc. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y dylid rhoi rhagor o gyngor a chymhellion i ffermwyr presennol sy’n ystyried ymddeol o’r diwydiant i gynyddu’r cyfleodd i ffermwyr ifanc. Clywodd y pwyllgor y byddai modd mynd i’r afael â hynny drwy ffurf y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn ystod y cyfnod 2014-2020.

Camau posibl:

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai'r gwaith o gynhyrchu bwyd o safon uchel barhau i fod wrth wraidd busnesau fferm ochr yn ochr â gweithgareddau rheoli tir eraill.

Mae'r pwyllgor o’r farn y dylai gasglu bod yr argymhellion a wnaed gan Kevin Roberts ynghylch gwella cynaliadwyedd ariannol ac effeithlonrwydd ffermydd yn bwysig ac y dylai Llywodraeth Cymru weithredu arnynt.

Mae'r pwyllgor o’r farn y dylai gefnogi cynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid yn y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf, ond dylid hefyd ystyried rhoi cyngor i'r ffermwyr presennol ynghylch cynllunio ar gyfer olyniaeth, a lle bo’n bosibl â chymhelliant ariannol i gynorthwyo ffermwyr sydd am ymddeol o’r diwydiant.

 

Darparu gwasanaethau ecosystemau

¡  Ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, roedd hi’n ymddangos bod consensws yn y dystiolaeth y bydd gwaith rheolwyr tir wrth ddarparu gwasanaethau ecosystemau yn fwyfwy pwysig yn y dyfodol a gallai hynny fod yn ffynhonnell bwysig o incwm amgen.

¡  Roedd nifer o randdeiliaid yn ystyried bod gwella gwasanaethau ecosystemau yn bwysig, nid yn unig oherwydd eu gallu i fod yn ffrwd incwm amgen, ond hefyd oherwydd y budd cyhoeddus pwysig, gan leihau perygl llifogydd, er enghraifft.

¡  Ymwelodd y pwyllgor â nifer o brosiectau ledled Cymru lle'r oedd rheolwyr tir eisoes yn gweithio ar ddulliau o weithio ar ecosystemau. Er bod nifer o brosiectau unigol da iawn, nid oedd y prosiectau hyn wedi eu cydgysylltu ac, yn aml, nid oedd arfer da yn cael ei rannu.

¡  Galwodd nifer o randdeiliaid ar Gyfoeth Naturiol Cymru i fod yn gorff enghreifftiol o ran gweithredu'r dull hwn o weithio ac i ddefnyddio ei dir ac Ystâd Coedwig Llywodraeth Cymru i dreialu a datblygu dulliau o'r fath.

¡  Roedd coedwigaeth yn yr ucheldir ac ynni adnewyddadwy yn ddwy enghraifft amlwg a roddwyd i'r pwyllgor lle gellid cael budd cyhoeddus ehangach ochr yn ochr â ffrydiau incwm newydd ar gyfer busnesau rheoli tir.

¡  Nododd y rhai a roddodd tystiolaeth i’r pwyllgor y Cynllun Datblygu Gwledig newydd fel y brif ffynhonnell cyllid ar gyfer treialu a chynorthwyo â thaliadau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau. Yn ogystal, nodwyd cyfyngiadau'r Cynllun Datblygu Gwledig sydd ar gael o ran swm y cyllid a'r ffaith mai dim ond ar sail costau incwm a ildiwyd y gellir gwneud taliadau. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y gallai peth o gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig gael ei ddefnyddio i ysgogi dull ecosystemau o weithio wrth reoli tir, i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer gwasanaethau ecosystemau ac i gynorthwyo'r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth am arferion rheoli tir yn gynaliadwy. Teimlai nifer o’r rhanddeiliaid hefyd y gallai dull mwy creadigol o gyfrifo incwm a ildiwyd alluogi Llywodraeth Cymru i gynnig cyfraddau taliadau uwch i ffermwyr mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol er mwyn adlewyrchu gwir gyfraniad y gwasanaethau i gymdeithas .

¡  O ystyried cyfyngiadau cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig, cyfeiriodd nifer o dystion at yr angen i ddenu buddsoddiad o'r sector preifat i gyllido gwasanaethau ecosystemau, a rhoddwyd rhai enghreifftiau penodol lle mae cwmnïau cyfleustodau eisoes wedi dechrau gweithio ar brosiectau o'r fath.Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y gallai Llywodraeth Cymru gael rôl mwy wrth gynorthwyo â’r gwaith o sefydlu marchnadoedd ar gyfer ecosystemau. Mae’r pwyllgor yn nodi bod Papur Gwyn Bil yr Amgylchedd yn cynnwys cynnig i ddatblygu rôl Cyfoeth Naturiol Cymru wrth sbarduno mecanweithiau’r farchnad i dalu am wasanaethau ecosystemau.                              

Casgliadau posibl:

Mae’r pwyllgor yn ystyried argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael rôl gydlynu i dynnu'r gwaith sy'n digwydd eisoes at ei gilydd ac i ledaenu hynny drwy brosiectau unigol sy'n darparu gwasanaethau ecosystemau.

Mae’r pwyllgor yn bwriadu argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn sefydliad enghreifftiol o ran rheoli tir yn gynaliadwy a darparu gwasanaethau ecosystemau.

Mae’r pwyllgor o’r farn y dylai awgrymu ei bod yn hanfodol fod y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf yn cynorthwyo'r gwaith o dreialu datblygiad gwasanaethau ecosystemau a'u rhoi ar waith drwy Glastir ac adrannau eraill o'r cynllun, gan gynnwys y gwaith o drosglwyddo gwybodaeth a dulliau cyllido arloesol, fel benthyciadau.

Mae’r pwyllgor yn ystyried argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau wrth lunio’r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf ei bod yn ystyried yn ofalus sut y bydd yn pennu cyfraddau taliadau ar gyfer gwahanol gynlluniau yn unol â’i blaenoriaethau rheoli tir yn gynaliadwy.

Mae’r pwyllgor o’r farn y dylai argymell bod y gwaith i sbarduno defnydd o fecanweithiau’r farchnad i dalu am wasanaethau ecosystemau yn dechrau fel mater o flaenoriaeth. Wrth wneud hynny, dylid dysgu gwersi o’r prosiectau lle mae buddsoddiad o’r sector preifat eisoes yn cael ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau ecosystemau.